Bu staff y Consortiwm Addysg Ôl-16 yn cymryd rhan mewn ysgol haf yn ystod mis Awst eleni er mwyn gwella dealltwriaeth pobl ifanc o anghenion a disgwyliadau addysg uwch o gymharu â gwaith ysgol neu goleg. Cynhaliwyd y cwrs, 'Anelu'n Uwch' ym Mhrifysgol Bangor er mwyn paratoi dysgwyr am ofynion addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Ariannwyd y cwrs gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac fe'i trefnwyd gan Grwp Llandrillo Menai. Roedd nifer o siaradwyr gwâdd yn cymryd rhan gan gynnwys beirdd a llenorion, darlithwyr Prifysgol a chynrychiolwyr busnes. Seilwyd y cwrs ar achrediad Prifysgol Glyndwr, 'Looking Forward to Higher Education' a bwriedir cynnal darpariaeth debyg eto i'r dyfodol.