Adnoddau e-ddysgu

Adnoddau e-ddysgu

Yn barod at y tymor newydd mae pob un o ysgolion a cholegau ôl-16 ardal y Consortiwm wedi derbyn adnoddau technoleg gwybodaeth newydd at ddefnydd disgyblion 6ed dosbarth.

Ysgol Syr Hugh Owen pupils with the new computers

Fel rhan o ymrwymiad y Consortiwm i hybu llythrennedd ddigidol yn y sector ôl-16 ac i sicrhau fod ein pobl ifanc yn medru manteisio cyn gymaint ag sy’n bosibl ar ein hadnoddau e-ddysgu, mae’r Consortiwm wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cyfrifiaduron newydd, gliniaduron ac i-pads, ac offer dysgu o bell sydd wedi eu dosbarthu i’r ysgolion a’r colegau ddechrau fis Medi. Mae’r buddsoddiad wedi bod yn bosibl drwy gyfraniad ein partneriaid ac fe’u hariannwyd yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai Elfed Morris, Rheolwr y Consortiwm, "Mae pwyslais cynyddol ar feithrin sgiliau cyfrifiadurol fydd o fantais i ddisgyblion wrth iddynt ddilyn llwybr i Addysg Uwch neu i fyd gwaith, ac mae’r Consortiwm yn falch o allu cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd yn ysgolion a cholegau’r ardal ym meysydd dysgu digidol ac e-ddysgu."

Un o’r ysgolion a fanteisiodd ar y cynllun hwn ydoedd Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Meddai Mr Paul Mathews-Jones Pennaeth yr Ysgol, "Hoffai Ysgol Syr Hugh Owen ddiolch i Gonsortiwm Gwynedd a Môn drwy arian WEFO am ddarparu offer ddigidol a gliniaduron ar gyfer dysgwyr Ol 16. Mae’r offer yn barod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr Lefel A Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ymchwilio a chreu prosiectau. Ar y cyd a grant y Consortiwm mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn rhagor o gyfarpar digidol yn ogystal ac ystafelloedd gwaith newydd ar gyfer disgyblion chweched dosbarth yn unig. Croesawyd Mr Elfed Morris i wasanaeth boreol y chweched dosbarth a diolchwyd iddo am y cyfraniad. Yn dilyn cynnydd rhagorol yng nghanlyniadau TGAU yr ysgol mae 116 o ddysgwyr wedi dychwelyd i’r chweched ac mae amseriad y buddsoddiad yn berffaith." 

 

off canvas exit