Mae pobl ifanc o ysgolion uwchradd o Ynys Môn a Gwynedd wedi bod yn cymryd rhan yn rhaglen dysgu a mentora Pontio, Profi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad ar batrwm 'Dragon's Den' yn Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, yn ddiweddar.
Ysgol Tryfan ddaeth i’r brig ac aelodau’r tîm oedd Katie Eaglestone ac Awen Roberts. Datblygodd y tîm buddugol brosiect mewn ymateb i frîff a osodwyd gan Fenter Iaith Môn, yn eu herio i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol ymysg pobl ifanc gan ddefnyddio darpariaeth ddigidol a/neu gyfryngau cymdeithasol. Syniad Katie ac Awen oedd creu podlediadau yn y Gymraeg ar gyfer pobl ifanc.
Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Iaith, Menter Iaith Môn: “Rydym ni’n hynod o falch ein bod ni wedi medru cymryd rhan yn y prosiect Profi eleni. Mae hi wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn gweld syniadau arloesol a chyffrous yn cael eu datblygu er mwyn annog defnydd pellach o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc, un o amcanion y Fenter Iaith ym Menter Môn. Rydym ni nawr yn edrych ymlaen at ddatblgu’r cynllun i’w lawn botensial.”
Cyflwynodd y tîm llwyddiannus eu syniad i banel o feirniaid, yn cynnwys cynrychiolwyr o Pontio, Pŵer Niwclear Horizon, Prifysgolion Santander DU, Siemens Healthcare a Dŵr Cymru er mwyn ennill £500 i’w helusen roi eu syniad ar waith.
Fel rhan o raglen Profi, bu disgyblion Blwyddyn 12 o Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgol David Hughes, Ysgol Friars, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol Tryfan yn cymryd rhan ac yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd trwy weithio ar ddogfennau briffio a gafodd eu gosod gan yr elusennau lleol Age Cymru Gwynedd a Môn, Gisda a Menter Iaith Môn gyda help gan fyfyrwyr o Brifysgol Bangor.
Dyfarnwyd gwobr ‘Ysbryd Profi’ i Tomas Harries o Ysgol Uwchradd Bodedern am wneud y gorau o’r cyfleoedd yr oedd Profi yn eu cynnig, a dyfarnwyd gwobr ‘Ysbryd Tîm Profi’ i Ysgol Tryfan am oresgyn anawsterau a mynd yr ail filltir fel rhan o’r project.
Dywedodd rheolwr project Profi, Elen Bonner: "Mae’n fendigedig gweld cynifer o sefydliadau o’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn dod at ei gilydd er mwyn cefnogi pobl ifanc leol, ac mae’r angerdd sydd gan y bobl ifanc dros wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau'n ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Noddir y rhaglen gan gyflogwyr lleol, sef, Pŵer Niwclear Horizon, Prifysgolion Santander DU a Siemens Healthcare.
Dywedodd Dr Fraser Logue, Is-lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Siemens Healthcare Diagnostics Products Ltd: "Rydym wrth ein bodd ac yn falch o gefnogi Profi eto eleni. Fel cyflogwr mawr yng Ngogledd Cymru, credwn ei bod yn allweddol o ran rhoi cyfle i ni ymgysylltu ag ysgolion lleol a'r gymuned ehangach i gefnogi pobl ifanc yn eu datblygiad yn y dyfodol."
Mae Profi wedi'i seilio ar raglen boblogaidd Prifysgol Bangor i israddedigion, 'Menter drwy Ddylunio' ac fe'i chefnogir gan yr Esmèe Fairbairn Foundation, Prifysgolion Santander DU, Pŵer Niwclear Horizon a Siemens Healthcare. Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu ar y cyd gan Pontio, Chris Walker – People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a phobl ifanc o Ysgol Gyfun Llangefni.