Daeth myfyrwyr, rhieni, athrawon a Phrifysgolion ynghyd nos Fercher yr 20fed o Ebrill yng Nghanolfan Arloesi Pontio, Bangor i lansio cynllun Rhwydwaith Seren, Hwb Gwynedd ac Ynys Môn.
Cynllun sy’n cefnogi myfyrwyr mwyaf abl a thalentog y sector ôl-16 yw Seren a bydd yn gwneud hynny drwy greu rhwydweithiau a thrwy gynnal nifer o weithgareddau a digwyddiadau uchelgeisiol fydd wedi eu teilwra’n arbennig i sicrhau mynediad i’r myfyrwyr at y wybodaeth, y cyngor a’r cyfarwyddyd gorau i’w galluogi i wneud ceisiadau o safon i’w Prifysgolion dewisol.
Yn ystod y lansiad cafwyd cyflwyniad gan swyddog mynediad Prifysgol Caergrawnt ar sut orau i lunio datganiad personol llwyddiannus gan gynnwys cyngor ynghylch y pethau y dylid eu cynnwys a rhybuddion ynghylch y pethau na ddylid eu gwneud. Cafwyd sesiwn ddifyr hefyd ar Fathemateg Bellach a’i bwysigrwydd fel cymhwyster sy’n angenrheidiol ar gyfer sawl cwrs Prifysgol cystadleuol.
Roedd nifer o Brifysgolion wedi dod â stondinau i gylchredeg gwybodaeth, gyda staff ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac ymholiadau. Yn ogystal roedd panel o alumni yn rhan o’r digwyddiad ac fe wnaethon nhw rannu eu profiadau academaidd ac ateb cwestiynau o’r gynulleidfa.
Roedd yn lansiad byrlymus, llwyddiannus a phrysur gyda dros 180 o fynychwyr i gyd.
Y cam nesaf fydd pennu rhaglen o weithgareddau yn unol â deisyfiadau’r myfyrwyr a’u hathrawon a bydd yr wybodaeth yn cyrraedd yr ysgolion a’r colegau’n fuan.