Holiadur Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd

Mae gan Gyngor Gwynedd Wasanaeth Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed er mwyn eu helpu i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac addysgol fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas.

Mae Cyngor Gwynedd yn derbyn llai o arian gan y llywodraeth ar gyfer rhoi gwasanaethau i bobl y sir. Felly mae’r Cyngor yn gorfod meddwl am  anghenion a blaenoriaethau pobl Gwynedd a sut i wneud y gorau gyda llai o arian. Mi fydd gan Gyngor Gwynedd £270,000 yn llai o arian ar gyfer talu am Wasanaeth Ieuenctid.

Yr her i Gyngor Gwynedd fydd gwneud y gorau o’r arian yma a cynnal Gwasanaeth Ieuenctid sydd yn ymateb i anghenion pobl ifanc Gwynedd ac i’r pethau hynny sydd bwysicaf iddyn nhw.

Felly mae’r Cyngor eisiau clywed eich barn chi er mwyn adnabod beth sydd yn bwysig i bobl ifanc, ac eraill, ar gyfer ffurfio Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol.

I lenwi'r holiadur, dilynwch y linc isod:

https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dweud-eich-dweud/Ymgynghoriadau-byw/Holiadur-Gwasanaeth-Ieuenctid-Gwynedd.aspx

off canvas exit