Gweler isod y swyddi ar gyfer y ddau brosiect Byw a Bod eleni.
1. Swyddi Byw a Bod Digidol
Bydd Arloesi yn recriwtio a chyflogi 10 o bobl ifanc o Wynedd a Môn (a all fod yn astudio yn rhywle arall) ac yn trefnu lleoliadau gwaith gyda busnesau TGCh yng Ngwynedd a Môn am 10 wythnos dros yr haf. Bydd angen iddyn nhw gael sgiliau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Mathemateg).
•Manylion y swyddi Byw a Bod Digidol ac y ffurflen gais i’w gael ar ein gwefan yma http://www.arloesigwyneddwledig.com/gweithgareddau/prosiectau/thema-6-cydweithredol/byw-a-bod-digidol/
Bydd Arloesi yn recriwtio a chyflogi 10 o bobl ifanc creadigol (17-25 mlwydd oed) o Wynedd neu Môn (gallent fod yn astudio yn rhywle arall) sydd gyda sgiliau perfformio, marchnata, rheoli neu ffilmio am 10 wythnos dros yr haf eleni.
Mae 4 swydd o fewn y prosiect sef y canlynol:
1. Dyfeisio a pherfformio (7 person ifanc)
2. Marchnata a Hyrwyddo’r (1 person ifanc)
3. Rheoli prosiect a gweinyddu. (1 person ifanc)
4. Technolegol/Ffilmio (1 person ifanc)
•Manylion am y swyddi Byw a Bod Perfformio a’r ffurflenni cais priodol i gael ar ein gwefan yma http://www.arloesigwyneddwledig.com/gweithgareddau/prosiectau/thema-6-cydweithredol/byw-a-bod-perfformio/
Croeso i chi gysylltu os oes unrhyw gwestiwn.
Mae’r dyddiad cau ar y 28ain o Ebrill, 2017.